Y gân gyntaf os ewch i'r cyswllt isod ydy 'Y Fwyalchen'; mae Haf A Gwen yn ei dysgu efo Côr Bro Meirion, a'r drydedd cân (tua 5m.20) ydy 'Sia Hamba' - mewn tair iaith.
Ar nos Sul, 4 Medi, ar y rhaglen Dechrau Canu, Dechrau Canmol ar S4C, roedd ieuenctid lleol o fro Eisteddfod 2012 sef Bro Morgannwg yn canu Ffosfelen yn swynol dros ben. Os hoffech chi weld hwn, ewch i 'Clic S4C', yna cliciwch 'Dal i Fyny', yna cliciwch 'Dechrau Canu, Dechrau Canmol' ac oddeutu 17 munud i'r rhaglen mae'r darn sy'n cynnwys Parti ieuenctid Heol y March.