Croeso i'n gwefan!

Côr merched Cana-mi-gei yn un o’u hymarferion yn ddiweddar yn Neuadd Talsarnau. Ffurfiwyd y côr ar ddechrau haf 2010, ac mae’r merched yn canu cymysgedd o ddarnau traddodiadol a chyfoes.  Gyda thua 30 aelod erbyn hyn, yr arweinyddes ydy Ann Jones, gynt o Harlech, a’r gyfeilyddes ydy Elin Williams, Talsarnau (Faeldref gynt).  Daw llawer o’r aelodau o Ardudwy a daw eraill o Borthmadog a Thremadog.  Mae'r côr wedi canu mewn nifer o gyngherddau - yn  Harlech, Ysgol Ardudwy, Neuadd Dyffryn, mewn cinio i agor Gŵyl Flodau Eglwys Sant Pedr, Llanbedr.  Mae’r merched yn cyfarfod bob nos Fawrth yn Neuadd Talsarnau am 8.00 yr hwyr.  Os ydych yn gwybod am unrhyw un sydd ag awydd ymuno â nhw, cysylltwch ag Ann Jones neu unrhyw un o aelodau’r côr.